DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LLYWODRAETH CYMRU

 

TEITL

Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu) 2023

DYDDIAD

10 Awst 2023

GAN

Lesley Griffiths Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

 

 

Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

 

Gofynnwyd am gytundeb gan y Gweinidog Gwladol y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Benyon i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu) 2023 (“Rheoliadau 2023”) i fod yn gymwys mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig (DU).

 

Gwneir yr OS dan y teitl uchod gan y Gweinidog Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddir o dan baragraff 8C(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi. Mae'r OS yn ymwneud â gweithredu Fframwaith Windsor, fel y cytunwyd arno rhwng y DU a'r UE ar 27 Chwefror 2023.

 

Ar hyn o bryd o dan Brotocol Gogledd Iwerddon, mae nwyddau bwyd-amaeth a gynhyrchir ac a symudir i Ogledd Iwerddon yn ddarostyngedig i safonau anifeiliaid, planhigion, iechyd y cyhoedd, marchnata ac organig yr UE. Bydd y diwygiadau a wnaed i Brotocol Gogledd Iwerddon, fel y nodir yn Fframwaith Windsor, yn rhannol yn galluogi sefydlu Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu a fydd yn galluogi nwyddau manwerthu penodol i symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon a bodloni safonau iechyd y cyhoedd , marchnata ac organig Prydain Fawr. Bydd yn dal yn ofynnol i nwyddau fodloni safonau'r UE ar gyfer iechyd anifeiliaid a phlanhigion, a safonau'r UE sy'n berthnasol i sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

 

Bydd yr UE yn datgymhwyso offerynnau deddfwriaethol perthnasol yr UE ar gyfer y categorïau o nwyddau y gellir eu symud o dan y cynllun symud nwyddau manwerthu, gan gynnwys deddfwriaeth sy'n gosod safonau ar iechyd y cyhoedd, marchnata ac organig ar gyfer nwyddau yng Ngogledd Iwerddon, ac sy'n darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer eu gorfodi. Fodd bynnag, bydd pwerau gorfodi yn erbyn safonau'r UE yn parhau i fod ar gyfer nwyddau a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon. Felly, mae angen deddfwriaeth ddomestig er mwyn sicrhau bod nwyddau sy'n cael eu symud o dan y cynllun yn ddarostyngedig i safonau Prydain Fawr, a bod yr awdurdodau perthnasol yng Ngogledd Iwerddon yn gallu gorfodi yn erbyn peidio â chydymffurfio â safonau Prydain Fawr.

 

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn darparu ar gyfer sefydlu'r Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu. Mae Rheoliadau 2023 yn pennu sut y gall person wneud cais am gymeradwyaeth i symud nwyddau y mae'r Cynllun yn berthnasol iddynt i Ogledd Iwerddon; lleoliad, natur a graddfa'r gwiriadau; a hawliau mynediad, atafaelu a dinistrio nwyddau sy'n peri risg bosibl.

Gosodwyd yr OS gerbron Senedd y DU ar 8 Awst 2023. O ran Rhannau 1 a 2, bydd Rheoliadau 2023 yn dod i rym ar 1 Medi, gyda'r gweddill yn dod i rym ar 1 Hydref.

Unrhyw effaith y gallai'r Offeryn Statudol ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

 

Mae Rheoliadau 2023 yn deillio o gytundeb Fframwaith Windsor. Nid yw Rheoliadau 2023 yn ymrwymo Gweinidogion Cymru i fabwysiadu unrhyw safbwynt gan Lywodraeth y DU ar fioddiogelwch yn y dyfodol.

Nid yw'r offeryn yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, na chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 2023 yn rhoi swyddogaethau newydd i'r Ysgrifennydd Gwladol, i sefydlu Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o sefydlu (a chynnal) y Cynllun yn arferadwy yn weinyddol ac yn cynnwys swyddogaeth sefydlu ‘telerau ac amodau’ y bydd y Cynllun yn gweithredu oddi tanynt. Mae angen cydsyniad Gweinidogion Cymru (a Gweinidogion yr Alban) i delerau ac amodau'r Cynllun cyn sefydlu'r Cynllun, a chyn unrhyw addasiad i'r telerau ac amodau yn y dyfodol. Gall methu â chydymffurfio â thelerau ac amodau'r Cynllun arwain at sancsiynau uniongyrchol o dan y Rheoliadau hyn (e.e. atal neu ddirymu cymeradwyaeth personau i gymryd rhan yn y Cynllun) a bydd yn drosedd bosibl yn unol â rheoliad 12 o Reoliadau Fframwaith Windsor (Gorfodi 2023 etc.) 2023.

Mae Rheoliadau 2023 (Rhan 4) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pwerau ymchwilio a phwerau gorfodi (gan gynnwys hawliau mynediad, a hawliau i atafaelu a gwaredu nwyddau). Mewn perthynas â Chymru, rhoddir swyddogaethau i bersonau a awdurdodir, yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru fel awdurdod priodol Prydain Fawr ar gyfer Cymru.

Rhoddir swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol a bydd rhaglen lywodraethu yn galluogi swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y swyddogaethau hyn yn cael eu harfer mewn modd sy'n adlewyrchu buddiannau Cymru. Yn ogystal, bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi proses gytundeb i weithredu ar gyfer unrhyw newidiadau posibl i'r Cynllun yn y dyfodol.

Y bwriad yw y bydd APHA yn rheoli'r broses a rhedeg y Cynllun o ddydd i ddydd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

Pwrpas yr Offeryn Statudol

Pwrpas Rheoliadau 2023 yw amddiffyn bioddiogelwch a chefnogi masnach rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, yn dilyn cytundeb Fframwaith Windsor. Mae'r offeryn yn mynd i'r afael ag effaith Erthygl 1(2) o Reoliad (UE) 2023/1231 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 14 Mehefin 2023 ar reolau penodol sy'n ymwneud â mynediad i Ogledd Iwerddon o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig o rai llwythi o nwyddau manwerthu, planhigion ar gyfer plannu, tatws hadyd, peiriannau a cherbydau penodol a weithredir at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth, yn ogystal â symudiadau anfasnachol rhai anifeiliaid anwes i Ogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu na fydd deddfwriaeth restredig yr UE bellach yn berthnasol i'r nwyddau penodol hynny nac i sefydliadau Gogledd Iwerddon wrth drin y nwyddau hynny yng Ngogledd Iwerddon pan fo gofynion Rheoliad (EU) 2023/1231 yn cael eu bodloni.

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi manylion tarddiad, pwrpas ac effaith Rheoliadau 2023 ar gael yma:

The Windsor Framework (Retail Movement Scheme) Regulations 2023 (legislation.gov.uk)

Pam y rhoddwyd cydsyniad

 

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud yr Offeryn hwn o ganlyniad i Gytundeb Fframwaith Windsor y daethpwyd iddo gan y DU a'r UE ac a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror 2023 ac i amddiffyn bioddiogelwch trwy gyflwyno mesurau amddiffynnol fel y Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu newydd ar draws Prydain Fawr.

 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.